20Twenty 28CAR7.1

20Twenty 28CAR7.1

Rhaglen Lawn – Tystysgrif Ôl-raddedig (PgC) mewn Arweinyddiaeth a thystysgrif Lefel 7 gan CMI (Sefydliad Rheolaeth Siartredig)

Ein rhaglen unigryw yw’r unig un yn y DU sy’n cynnig gwobr ddeuol (h.y. cymhwyster Lefel 7 mewn Arweinyddiaeth o’r CMI ynghyd â Thystysgrif i Raddedigion o Brifysgol Met Caerdydd). Mae’r dystysgrif ôl-raddedig yn cyfateb i draean o MBA Gweithredol ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Yna mae gan fyfyrwyr yr opsiwn o ennill statws Rheolwr Siartredig trwy lwybr carlam sy'n caniatáu iddynt ddefnyddio'r dynodiad 'CMgr' ar ôl eu henw. Mae cymhwyster Rheolwr Siartredig yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol o gymhwysedd a phroffesiynoldeb ar lefel weithredol a strategol.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno dros 10 diwrnod ar hyd cyfnod o ddeg mis.

Pris:

£2,250.00