Marchnadle Met Caerdydd - Teithio a Chludiant

Teithio a Chludiant

  • Fel aelod o staff, gallwch detihio’n ddiderfyn ar holl wasanaethau Bws Caerdydd am 12 mis am bris gostyngedig. Mae'r tocyn hefyd yn cynnwys mynediad i'r llwybr Met Wibiwr pwrpasol rhwng Llandaf a Chyncoed yn ystod y tymor.

    Pris:

    £395.00

  • Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac yn byw yng Nghymru, ac yn astudio ym Met Caerdydd, mae gennych chi’r hawl i wneud arbedion mawr ar wasanaethau Bws Caerdydd. Drwy ei baru â chynllun Fy Ngherdyn Teithio y mae'r tocyn bws hwn yn ddilys. Gwnewch gais am Fy Ngherdyn Teithio yma ar yr un pryd neu cyn prynu'r tocyn hwn. 

    Pris:

    £160.00

  • Tocyn gwych sy’n cynnig teithio ar ddisgownt, defnydd diderfyn 7 diwrnod yr wythnos, ar holl wasanaethau Bws Caerdydd , gan gynnwys y MetWibiwr pwrpasol rhwng Campysau Llandaf a Chyncoed.

    Pris:

    £260.00

  • Trwydded barcio i gontractwr. Mae trwyddedau'n ddilys am y cyfnod a ddewiswyd. Mae eich trwydded yn rhoi hawl i gerbyd cofrestredig barcio ar y safle. Nid yw hyn yn gwarantu lle parcio.
    Mae trwyddedau ar gael i gontractwyr swyddogol yn unig, a bydd hyn yn cael ei wirio wrth wneud cais am drwydded. Caniatewch 5 diwrnod gwaith ar gyfer cadarnhad.

    Ni chaniateir i staff, myfyrwyr nac ymwelwyr brynu'r cynnyrch hwn.

    Ni roddir ad-daliadau.

    Pris:

    £20.00 - £60.00 (yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd)