Cyflwyniad i Beintio Olew neu Acrylig – Lliw a Ffurf

Cyflwyniad i Beintio Olew neu Acrylig – Lliw a Ffurf


Dyddiad: Dydd Mercher o 30 Medi

, 7:00 -9:00

Hyd y cwrs: 10 sesiwn*

Pris: £230

Tiwtor: Christopher Holloway

Lefel:

croeso i bawb



Bydd y cwrs hwn yn archwilio agweddau technegol peintio mewn olew neu acrylig gydag astudiaeth o gyfansoddiad, lliw, ymarfer cymysgu ac arsylwi. Bydd pob dosbarth yn eich tywys drwy gamau cychwynnol peintio a sut i ddefnyddio'ch deunyddiau i ymateb i wahanol bynciau, gan eich arwain i greu sawl paentiad ac astudiaeth drwy gydol y cwrs.

 

Bydd y cwrs yn dechrau drwy archwilio hanfodion damcaniaeth lliw. Byddwn yn dysgu sut i reoli golau drwy ddefnyddio lliw a chysgod pan yn cymhwyso i ffurfiau syml a siapiau sylfaenol. Gan weithio tuag at gyfansoddiadau mwy sylweddol o arsylwi byddwch yn datblygu dealltwriaeth o raddfa, strwythur, cyfrannedd a gofod, a sut i greu dyfnder yn eich paentiad. Gall datblygu'r elfennau ffurfiol hyn yng nghyfnodau cychwynnol eich taith baentio fod o fudd mawr wrth ddatblygu hyder mewn peintio. Bydd y pynciau’n cynnwys gwrthrychau a bywyd llonydd, ffurfiau naturiol a mannau mewnol.

 

Bydd y cwrs yn addas i'r rhai sydd am ddatblygu eu profiad peintio gydag olew neu acrylig, wrth geisio hyfforddiant ynghylch yr elfennau peintio technegol a ffurfiol. Dosbarth a addysgir mewn amgylchedd stiwdio cefnogol yw hwn, lle darperir hyfforddiant ac adborth un i un drwy gydol y profiad. Trafodir cyfeiriadau perthnasol at enghreifftiau o weithiau celf cyfoes a hanesyddol i gyflwyno cysyniadau sy'n berthnasol i weithgareddau'r dosbarth.

Beth sydd angen i fyfyrwyr ddod gyda nhw?

Myfyrwyr i ddod â: Lliw Olew / Acrylig o Safon Myfyrwyr neu Artistiaid:


• Coch Cynnes e.e. – Cadmium Red
• Coch Oer e.e. - Alizarin Crimson neu Quinacridone Red
• Glas Cynnes e.e. –Cerulean, Manganîs neu Pthalo Blue
• Glas Oer e.e.- Ultramarine Blue
• Melyn Cynnes e.e. - Cadmium Yellow
• Melyn Oer e.e. – Lemon Yellow
• Yellow Ochre
• Viridian Green
• Titanium White
• Du


Gall myfyrwyr ddod â lliwiau ychwanegol os dymunant.





Hefyd: clytiau, palet, cyllyll palet, tâp masgio, brwsys gwastad a/neu grwn - os yn bosibl meintiau 2, 4 ac 8, gwirod gwyn neu dyrpentin ar gyfer artistiaid ag arogl isel (ar gyfer peintwyr olew), jar golchi brwsys, deunyddiau lluniadu (pensil, siarcol, rhwbiwr), gall ffedog fod yn ddefnyddiol.


Arwynebau o wahanol feintiau i beintio arnynt fel – cynfas wedi'i brimio, bwrdd cynfas, papur olew wedi'i brimio / pad papur acrylig, byrddau wedi'u primio, pa un bynnag rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn ei ddefnyddio.

 

 

*Sylwer y bydd wythnos egwyl ar Ddydd Mawrth 28 Hydref (ar gyfer Hanner Tymor) a bydd y cyrsiau yn ailddechrau yr wythnos ganlynol, sy'n golygu y cynhelir y sesiwn olaf ddydd Mawrth 9 Rhagfyr

Pris:

£230.00