Dyddiad:
bob dydd Mawrth, yn dechrau ar 29 Medi, 7.00-9.00yhHyd y cwrs: 5 sesiwn
Pris: £125
Tiwtor: Christopher Holloway
Lefel: Dechreuwyr/Canolradd
Datblygwch eich sgiliau lluniadu mewn lleoliad stiwdio drwy archwilio casgliad o ddulliau ac agweddau gwahanol at luniadu, mewn amgylchedd creadigol a chefnogol. Gan weithio o arsylwi, bydd y cwrs yn ymdrin ag astudiaeth o linell, tôn, siâp, gwead, graddfa a chyfansoddiad. Bydd y pynciau’n cynnwys bywyd llonydd, y ffigur, gofod mewnol ac amrywiaeth o senarios lluniadu arsylwadol. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar egwyddorion lluniadu ac yn datblygu eich sgiliau mewn arsylwi a ffyrdd o weld.
Mae hwn yn ddosbarth a addysgir mewn amgylchedd stiwdio, lle anogir arbrofi a lle gallwch ddysgu trwy dynnu llun. Darperir hyfforddiant ac adborth un i un drwyddi draw.Â
Bydd angen i’r myfyrwyr ddod â'r canlynol gyda nhw: Bydd un bocs o siarcol helygen, detholiad o bensiliau lluniadu wedi'u graddio, rhwbiwr, papur cetris gwyn A1 ac A2 ar gael yn y dosbarth. Darperir ffioedd dysgu ar gyfer deunyddiau, felly mae'n ddoeth peidio â phrynu'n ddiangen cyn i'r cwrs ddechrau.
*Sylwer y bydd wythnos egwyl ar Ddydd Mawrth 27 Hydref (ar gyfer Hanner Tymor) a bydd y cyrsiau yn ailddechrau yr wythnos ganlynol, sy'n golygu y cynhelir y sesiwn olaf ddydd Mawrth 3 Tachwedd
Pris:
£125.00