MetWibiwr Cynnar – Fy Ngherdyn Teithio 2025/26 (yn ddilys i fyfyrwyr 16-21 oed yn unig)
Neidio i'r Prif Gynnwys
Toglo Prif Far Llywio
Rhowch derm chwilio'r wefan a defnyddio'r FYSELL ENTER i gyflwyno eich chwiliad
Fy Nghyfrif
Cofrestru
Mewngofnodi
Eitemau yn y Fasged 0
0
Pob Siop
Categorïau Cynnyrch
Anrhegion
Cyrsiau Byrion
Digwyddiadau
Dillad
Graddio
Teithio a Chludiant
MetWibiwr Cynnar – Fy Ngherdyn Teithio 2025/26 (yn ddilys i fyfyrwyr 16-21 oed yn unig)
Canolfan Siopa
Bywyd Campws
Teithio
MetWibiwr Cynnar – Fy Ngherdyn Teithio 2025/26 (yn ddilys i fyfyrwyr 16-21 oed yn unig)
Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac yn byw yng Nghymru, ac yn astudio ym Met Caerdydd, mae gennych chi’r hawl i wneud arbedion mawr ar wasanaethau Bws Caerdydd. Drwy ei baru â chynllun Fy Ngherdyn Teithio y mae'r tocyn bws hwn yn ddilys.
Gwnewch gais am Fy Ngherdyn Teithio yma ar yr un pryd neu cyn prynu'r tocyn hwn.Â
Yn ddilys o’r 1af o Fedi 2025 hyd y 30ain o Fehefin 2026.
I fod yn gymwys ar gyfer y pryniant hwn rhaid i chi fod yn 21 oed neu'n iau ar 30ain o Fehefin 2026.
Mae'r tocyn hwn yn unigryw i fyfyrwyr Met Caerdydd, gan roi'r rhyddid i chi deithio ar hyd y ddinas a thu hwnt (i'r Barri a Chasnewydd) am gyn lleied â £3.04 yr wythnos.
Cynnig cynnar yw hwn a bydd prisiau'n cynyddu unwaith y bydd nifer gyfyngedig o docynnau wedi'u gwerthu.
Rydym yn gwarantu y bydd tocynnau a brynir erbyn 25ain o Awst yn cael eu hactifadu ar gyfer 1af o Fedi.
Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost Met Caerdydd i brynu'r tocyn hwn ac wrth greu eich cyfrif Bws Caerdydd.
Ewch i
wefan Bws Caerdydd
am ragor o wybodaeth, gan gynnwys amserlen a manylion y llwybr.
Gwyliwch
y fideo Youtube
hwn am ganllaw cyflym ar sut i actifadu'r tocyn.
*NODER – Mae tocynnau’n ddilys o’r 1af o Fedi 2025. Byddwch yn derbyn e-bost yn uniongyrchol gan Bws Caerdydd yn agosach at y dyddiad hwn gyda chod i adbrynu eich tocyn, gwiriwch eich ffolderi sbam a sothach. Os byddwch yn prynu eich tocyn yn y misoedd cyn y 1af o Fedi, caiff eich tocyn ei ryddhau yn y dyddiau cyn y dyddiad hwn. Os byddwch yn prynu eich tocyn ar ôl y 1af o Fedi, gall gymryd 3-4 diwrnod gwaith cyn i chi dderbyn eich tocyn*
Am unrhyw gymorth, cysylltwch â ni drwy e-bostio
metrider@cardiffmet.ac.uk
Noder, mae'r cynllun hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac er mwyn gwirio eich cymhwysedd ar gyfer y gostyngiad hwn, mae’n bosib y bydd angen i ni rannu eich Dyddiad Geni a'ch cyfeiriad presennol yn ystod y tymor gyda nhw. Drwy barhau â'r pryniant hwn, rydych yn cydsynio i ni rannu'r wybodaeth hon â Llywodraeth Cymru. Caiff yr holl rannu gwybodaeth ei drin yn unol â Chyfraith Diogelu Data.
Â
Pris:
£140.00
Ychwanegu at y Fasged