Dwdlan yn Hawdd – Cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar Niwrograffig Creadigol

Dwdlan yn Hawdd – Cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar Niwrograffig Creadigol

Hyd y Cwrs: 1 wythnos (5 awr yr wynthos, 10.00 - 4.00, awr o egwyl cinio)
Tiwtor: Nikolette Kovacs 
Lefel: Pob lefel

Mae'r cwrs unigryw hwn yn gwahodd unigolion o bob lefel artistig i archwilio’r croestoriad rhwng creadigrwydd a pherthynas meddwl-corff.  P'un a ydych chi'n frwdfrydig am gelf, yn ddechreuwr sy'n chwilio am antur newydd, neu os oes gennych ddiddordeb mewn integreiddio celf yn eich bywyd o ddydd i ddydd, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi! 

Nid oes angen unrhyw fath o sgiliau lluniadu neu artistig blaenorol i wneud y cwrs - mae'n ymwneud â'r broses: yn y bôn, os gallwch dynnu llinellau, gallwch wneud Celf Niwrograffig. Byddwch yn cael eich tynnu i mewn i'r broses myfyriol o greu celf sy'n golygu bod y cwrs yn ddelfrydol ar gyfer selogion celf ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymwybyddiaeth ofalgar a llesiant. 

Mae Celf Niwrograffig yn cyfuno seicoleg a chelf a'i nod yw helpu i leihau straen, trawsnewid credoau’r isymwybod a chreu ymdeimlad cyffredinol o les. Darganfyddwch y manteision therapiwtig wrth i chi greu gweithiau celf bywiog, ymlacio a lleihau straen.

Yr unig ragofyniad ar gyfer ymuno â'r cwrs yw chwilfrydedd. 

Beth sydd angen i'r myfyrwyr ddod gyda nhw? 
• Llyfr braslunio A4/A3 (o leiaf papur 210gsm)
• Deunyddiau lliwio: Detholiad o farcwyr a phennau, yn dibynnu ar ddewis personol. Bydd cyngor yn cael ei ddarparu yn ystod y sesiwn gyntaf.
• Pensiliau lliw
• Marciwr parhaol (glas neu ddu)
• Sharpener
• Rhwbiwr
• Awydd i ddysgu 

Dewisol: Pensiliau dyfrlliw, creonau, pens gel

Pris:

£90.00