Canolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid – Darpariaeth Cryfder a Chyflyru TYMOR 3 2024/2025

Canolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid – Darpariaeth Cryfder a Chyflyru TYMOR 3 2024/2025

Sesiynau Cryfder a Chyflyru a gyflwynir i blant ifanc rhwng 8 a 18 oed.

Sefydlwyd y ganolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2014 gan yr Athro Rhodri Lloyd a Jon Oliver, arbenigwyr blaenllaw mewn cryfder a chyflyru ieuenctid. Datblygwyd y ganolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid i ddarparu rhaglenni datblygu athletau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i athletwyr ifanc (8-18 oed). Nod y ganolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid yw darparu sesiynau datblygu athletau sy'n briodol i'w hoedran i blant a phobl ifanc i ddatblygu eu ffitrwydd corfforol, gwella perfformiad chwaraeon, lleihau'r risg o anafiadau, a chynyddu eu hunanhyder. Mae'r holl staff yn y ganolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid yn arbenigwyr ieuenctid cwbl gymwysedig, gyda chefndir helaeth o weithio gydag ieuenctid. Mae'r rhaglenni datblygu athletau a ddarperir yn y ganolfan yn seiliedig ar ymchwil o ansawdd uchel a gynhyrchwyd gan y ganolfan, gan arwain at ganolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid yn cael ei hadnabod fel un o brif ddarparwyr Cryfder a Chyflyru ar gyfer athletwyr ifanc yn y DU.

Lleoliad y sesiynau yw'r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC).

Sylwch eich bod yn talu am y tymor cyfan. Os na all eich plentyn wneud un o'r sesiynau, rydych chi'n dal i dalu ymlaen llaw am y tymor cyfan.

Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch eich plentyn yn ystod y sesiynau, a allwch chi lenwi'r ffurflen ar-lein isod.

https://cardiffmet.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_eRri5qAmon4UeTc

Fideo Gwybodaeth i Rieni y Ganolfan Datblygiad Corfforol Ieuenctid: https://www.youtube.com/watch?v=Bm5Dk3LBNig

Noder fod angen o leiaf 6 o blant i gynnal y sesiynau. Os na chyrhaeddir yr isafswm hwn, bydd cwsmeriaid yn cael eu had-dalu, neu yn cael cynnig lle ar sesiwn wahanol.

Mae prisiau yn amrywio o £35.00 i £60.00 (mae’r pris yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd)